Yn ôl ymchwil mae dros un rhan o dair o’r boblogaeth yn y gweithle yn dioddef problemau iechyd meddwl fel iselder, straen neu bryder Mae llawer o bobl wedi dioddef problemau iechyd meddwl neu yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef hynny ac mae hyn yn wir iawn mewn perthynas â’r gweithle.
Mae mwy o gyflogwyr a rheolwyr yn cydnabod yr angen i fuddsoddi mewn hyfforddiant i helpu eu staff a’u corff i ddeall iechyd meddwl yn well a sut i wneud y gweithle yn iachach yn feddyliol.
Fe fydd yr hyfforddiant yma yn rhoi gwell dealltwriaeth i gyflogwyr a rheolwyr o’r amrediad o broblemau iechyd meddwl a sut maen nhw’n effeithio ar y gweithle. Fe fyddwn yn edrych ar ffyrdd o wella iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol a sut y mae buddsoddi mewn arferion da yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar bawb.
Mae’r cwrs yn cynnwys
- Beth ydy llesiant yn y gweithle a sut mae’n berthnasol i’m gweithle?
- Canllaw ar iselder, straen a phryder.
- Problemau iechyd meddwl cyffredin eraill yr ydych efallai wedi clywed amdanyn nhw ond wedi bod yn rhy ofnus i holi amdanyn nhw.
- Sut i drafod iechyd meddwl yn y gweithle.
- Sut i helpu cydweithiwr allai fod yn mynd drwy gyfnod anodd
- Creu gweithle sydd yn iachach yn feddyliol
- Cyflwyniad i ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer y gweithle a sut y gall hyn fod o fudd i’ch corff.
Ar gyfer
Mae’r sesiwn hyfforddi yma ar gyfer staff a rheolwyr sydd eisiau dysgu rhagor am y pwnc hwn a dulliau i’w weithredu.
Am yr Hyfforddwr
Mae Julie wedi’i hyfforddi ar lefel ôl raddedig mewn iechyd meddwl ac mae wedi derbyn hyfforddiant i gefnogi pobl drwy ddefnyddio amrediad o ymyriadau yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, Therapi Byr yn canolbwyntio ar atebion a Chyfweld Ysgogiadol.
Mae Julie yn credu bod iechyd meddwl yn ymwneud â’r person cyfan, eu cymuned a’u cymdeithas. Mae’n ceisio gwella iechyd meddwl a llesiant drwy hyfforddiant perthnasol sy’n procio’r meddwl, gwella ymarferion yn y gweithle a chefnogi pobl i ofalu am eu llesiant.