Dysgu oddi wrth y pandemig i wneud dyfodol gwell
Casnewydd, De Cymru: Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 / Cyffordd Llandudno, Gogledd Cymru: Dydd Iau 24 Tachwedd 2022
Ers Mawrth 2020 mae pob un ohonom wedi mynd drwy lawer.
Mae “mynd yn ôl i normal” yn rhywbeth rydym yn ei glywed yn aml ar hyn o bryd. Ond beth ydy “normal”? I lawer o bobl gydag anabledd dysgu, roedd bywyd cyn y pandemig ymhell o fod yn berffaith. Ydyn ni mewn gwirionedd eisiau mynd yn ôl i hynny?
Bu’r pandemig, y cyfnod clo a chadw pellter cymdeithasol yn neilltuol o anodd i bobl gydag anabledd dysgu a gwnaeth llawer o broblemau oedd eisoes yn bodoli yn waeth. Mae’r sefyllfa hefyd wedi gwneud Cymru yn wlad mwy anghyfartal i rai pobl.
Ond mae’r pandemig hefyd wedi dysgu pethau newydd i lawer ohonom. Mae llawer o bobl gydag anabledd dysgu wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi darganfod ffyrdd newydd o wneud eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill yn well.
Fe fydd Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2022 yn edrych ar yr hyn rydym wedi ei ddysgu o’r profiadau yma a gofyn “Lle rydym yn mynd o’r fan hyn?” i greu gwell dyfodol.
Rydym wedi casglu fideos a chyflwyniadau o nifer o’r sesiynau o’n cynhadledd flynyddol.