Man wearing an ID tag

Gweithiodd y prosiect Engage to Change yng Nghymru o 2016 tan Mis Mai 2023. Gweithiodd i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc ag anabledd dysgu, ac awtistiaeth.

Dylanwadu a Hysbysu Engage to Change yw ei brosiect gwaddol ac mae’n cynnal digwyddiadau “Adnabod Fi, Adnabod Chi” i ddod â phobl ag anabledd dysgu ac neu awtistiaeth, teuluoedd, darparwyr cyflogaeth â chymorth,  a chomisiynwyr at ei gilydd i siarad a rhannu syniadau.

Archebwch eich lle yma

Easy Read logo

Cliciwch yma am gwybodaeth hawdd ei deall

Pobl ag anabledd dysgu, a neu awtistiath

Os ydych ag anabledd dysgu, a/neu awtistiaeth

  • Darganfyddwch pa gymorth cyflogaeth sydd ar gael.
  • Rhannwch eich profiadau o waith.
  • Dywedwch pa gymorth i mewn i waith sydd orau i chi.

Teulu

Os oes gennych berson ifanc ag anabledd dysgu, neu awtistiaeth yn eich teulu:

  • Darganfyddwch pa gymorth cyflogaeth sydd ar gael.
  • Dywedwch pa gefnogaeth sydd ei hangen.
  • Gwrandewch ar yr hyn sydd gan bobl ifanc o’r prosiect i’w ddweud am gymryd rhan.

Darparwr

Os ydych chi’n ddarparwr cymorth:

  • Dywedwch wrth bobl pa gefnogaeth rydych yn ei gynnig.
  • Darganfyddwch beth arall sydd ei angen ar bobl.

Comisiynydd

Os ydych chi’n comisiynu gwasanaethau:

  • Darganfyddwch beth sydd ei angen ar bobl mewn gwirionedd.
  • Clywed barn pobl ifanc am gymorth cyflogaeth a’r hyn sy’n gweithio.

 

Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn.

Bydd lluniaeth ar gael.

Lleoliadau hygyrch.

 

Archebwch eich lle yma

 

Caerdydd, Future Inn: Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024. 11:00 – 1:45

Caerfyrddin, Canolfan Halliwell: Dydd Mercher 12 Mehefin 2024. 11:00 – 1:45

Llandudno, Venue Cymru: Dydd Llun 17 Mehefin 2024. 11:00 – 1:45

 


Mae Dylanwadu a Hysbysu yn bartneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru ac NCMH ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Logos for Engage to Change, Welsh Government and National Lottery Community Fund