Iselder a phryder ydy’r mathau mwyaf cyffredin o salwch meddwl yn y DU. Mae pobl gydag anabledd dysgu yn llawer mwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl fel y rhain na’r boblogaeth yn gyffedinol. Mae’r hyfforddiant yma yn edrych ar yr ymchwil diweddaraf am y rheswm dros hyn a sut i gefnogi rhywun sydd ag anabledd dysgu i ddeall y cyflyrau yma.
Fe fyddwn yn edrych yn fanwl ar y problemau iechyd meddwl cyffredin yma ac yn bwysicaf, y ffyrdd gorau iw trin a chadw’n iach.
Mae’r cwrs yn cynnwys
- Beth ydy iselder a phryder?
- Sut mae’n effeithio ar y corff a’r meddwl?
- Sut y gall iselder a phryder effeithio ar rhywun sydd ag anabledd dysgu?
- Sut rydyn ni’n adnabod iselder a phryder mewn pobl eraill
- Sut i helpu rhywun sydd ag anabledd dysgu i ddeall iselder a phryder
- Dulliau o drin iselder a phryder a sut i gadw’n iach.
Ar gyfer
Mae’r cwrs yma wedi cael ei anelu at unrhyw un sydd eisiau gwell dealltwriaeth o iselder a phryder ac mae’n arbennig o berthnasol i bobl sydd yn cefnogi rhywun sydd ag anabledd dysgu.
Am yr Hyfforddwr
Mae Maggie wedi mwynhau gweithio gydag oedolion ag anabledd dysgu am y 22 mlynedd diwethaf. Mae’n rhan o Dîm Iechyd Anabledd Dysgu Cymuned, y Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith. Yno mae’n gweithio gyda gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau i ddeall yr amrywiol ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu a’r hyn sydd yn gallu bod yn anodd i bobl gydag anabledd dysgu. Mae Maggie yn cefnogi pobl i ddatblygu dulliau cyfathrebu y gall pawb eu defnyddio.