Cefnogir y digwyddiad hwn gan Cymorth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, gyda chymorth ariannol gan Fwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru CLlC.
Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r sector anableddau dysgu wedi dod ynghyd i ddatblygu dogfen sy’n cynnig fframwaith a chanllaw i helpu yn y gwaith o lywio a gwella comisiynu.
Bydd y ddogfen yn cael ei lansio ar 5 Mawrth, gyda sesiynau rhyngweithiol i ddod â’r ddogfen yn fyw a’i rhannu’n gamau pendant y gallwn ni fel sector eu cymryd.
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn, ac mae’n gyfle gwych i fod yn bresennol ar ddechrau rhywbeth all chwyldroi ein gwasanaethau a rhoi cyfle i’r rhai rydym yn eu helpu i fod wrth galon y gofal a’r gefnogaeth a roddir iddynt.
Nodau:
- Ceisio cael ymrwymiad i newid arferion comisiynu
- Sicrhau bod teuluoedd a defnyddwyr gwasanaethau wrth galon y broses
- Dylanwadu ar arferion comisiynu i ganolbwyntio ar ‘fywyd da’
- Defnyddio enghreifftiau o arfer da i ddylanwadu ar newid
- Nodi cyfleoedd i sicrhau bod gweithredu’n gost-effeithiol a rhoi gwerth am arian yn bosibl ochr yn ochr â dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn