Unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y cwrs fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau llawn i chi ar sut i ymuno gyda’r sesiwn.
Mae hwn yn gwrs am ddim. Mae’n parhau am 2 awr ac mae’n cael ei gynnal ar-lein.
Mae’r cadw pellter cymdeithasol yn gallu bod yn anodd, yn enwedig i bobl sydd yn ei chael yn anodd i ddefnyddio pethau fel WhatsApp, Zoom a Skype etc i gyfathrebu ar-lein.
Hyd yn oed cyn y pandemig roeddem yn gwybod bod pobl gydag anabledd dysgu yn fwy ynysig yn gymdeithasol na phobl eraill yn ein cymdeithas. Gyda’r broblem ychwanegol o gysylltiad wyneb yn wyneb cyfyngedig mae’n bwysicach nag erioed nawr i allu cefnogi pobl i gadw mewn cysylltiad a siarad gydag eraill.
Fe fydd y sesiwn yma yn eich helpu i gefnogi pobl gydag anabledd dysgu i fynd ar-lein ac i gyfathrebu ar-lein.
Fe fydd y sesiwn yn cynnwys
- Dulliau o gyfathrebu ar-lein
- Diogelwch ar-lein
- Cefnogi rhywun ar-lein
Sut fydd y sesiwn yn gweithio
- Pan fyddwch yn cofrestru fe fyddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymuno gyda’r sesiwn ar-lein. Edrychwch i weld os oes gennych yr offer cywir os gwelwch yn dda, gweler isod.
- Fe fydd eich tiwtor yn eich tywys drwy’r cwrs, fe fyddwch yn gweld gwybodaeth ac enghreifftiau ar y sgrin yn ogystal â gallu gweld eich cyd gyfranogwyr a hyfforddwr.
- Fe fyddwch yn gallu gofyn cwestiynau a thrafod y dulliau gyda’r tiwtor a’ch cyd gyfranogwyr.
- Ar ôl i’r sesiwn orffen fe fyddwch yn derbyn e-bost gyda holl ddeunyddiau’r cwrs.