Sut i ymdopi gyda heriau bywyd a gwella llesiant
Gwytnwch ydy pan mae person yn defnyddio eu cryfderau a’u sgiliau i reoli heriau bywyd.
Mae pob un ohonom angen sgiliau gwytnwch i’n helpu i reoli pwysau bywyd ac mae hyn yn neilltuol o bwysig i berson gydag anabledd dysgu i’w ystyried.
Fe fydd yr hyfforddiant hanner diwrnod yma yn edrych ar sut y gellir datblygu gwytnwch ac ystyried meysydd fel hyder, hunanbarch, hunaneffeithlonrwydd a’r rhan maen nhw’n ei chwarae mewn gwytnwch.
Fe fydd yr hyfforddiant yma yn hynod o ysbrydoledig i unrhywun sydd eisiau dysgu sgiliau gwytnwch i gefnogi eraill neu eu hunain, ac fe fydd yn newid bywyd.
Dyma beth fydd yn cael ei drafod
• Beth ydy gwytnwch a sut mae’n effeithio ar iechyd meddwl da a llesiant?
• Deall hyder, hunanbarch, hunaneffeithlonrwydd a sut maen nhw’n gwahaniaethu.
• Sut mae’r pynciau yma yn effeithio ar berson gydag anabledd dysgu?
• Hybu gwytnwch – cymryd ymagwedd holistaidd tuag at feddwl am wytnwch a’i roi ar waith.
Ar gyfer
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhywun sydd eisiau cael gwell dealltwriaeth o sut i ddatblygu gwell sgiliau gwytnwch ar gyfer eu hunain neu eraill. Fe fydd hefyd yn trafod sut y gall hyn fod yn berthnasol i bobl gydag anableddau dysgu.
Am yr Hyfforddwr
Mae Julie wedi’i hyfforddi ar lefel ôl raddedig mewn iechyd meddwl ac mae wedi derbyn hyfforddiant i gefnogi pobl drwy ddefnyddio amrediad o ymyriadau yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, Therapi Byr yn canolbwyntio ar atebion a Chyfweld Ysgogiadol.
Mae Julie yn credu bod iechyd meddwl yn ymwneud â’r person cyfan, eu cymuned a’u cymdeithas. Mae’n ceisio gwella iechyd meddwl a llesiant drwy hyfforddiant perthnasol sy’n procio’r meddwl, gwella ymarferion yn y gweithle a chefnogi pobl i ofalu am eu llesiant