Beth mae’n ei gynnwys?
Yn ystod y sesiwn cewch eich diweddaru ar amrywiaeth o fentrau a pholisïau sydd wedi’u cynllunio i leihau anghydraddoldebau iechyd a sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael mynediad cyfartal at ofal iechyd.
Bydd yn cynnwys
- Beth yw proffiliau iechyd a sut i wneud y mwyaf ohonynt
- Archwiliadau Iechyd Blynyddol
- Rhwymedigaethau cyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol
- Y Bwndel Gofal
- Hyfforddiant gorfodol yn y GIG
Rhoddir amser i chi ofyn eich cwestiynau a thrafod y materion a godwyd.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn?
Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol neu’r rhai yn y sector gwirfoddol sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu.
Mae’r seminar ar-lein 2 awr hon yn cael ei hwyluso gan Sefydliad Paul Ridd.
Mae Sefydliad Paul Ridd yn elusen sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu i gael gofal iechyd cyfartal.