Cyflawnir prosiect Engage to Change mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, ELITE Supported Employment ac mewn cydweithrediad â Phrosiect Search DFN. Cyllidir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru trwy raglen Getting Ahead 2.
Ymunwch gyda Engage to Change ar gyfer lansio adroddiad gwerthuso diweddaraf y prosiect “Y Pedair Blynedd Gyntaf”
Fe fydd llysgennad arweiniol Engage to Change Gerraint Jones Griffiths yn trafod yr effaith y mae’r prosiect wedi ei gael ar bobl ifanc gydag anawsterau dysgu, anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth ar draws Cymru.
Fe fydd Dr Stephen Beyer o’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno trosolwg o’r canfyddiadau.
Fe fydd pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yn rhannu eu profiadau.
Fe fydd y digwyddiad yn cloi gyda sesiwn holi ac ateb lle y bydd partneriaid Engage to Change ar gael i ymateb i’ch cwestiynau am y prosiect a’r adroddiad.
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Mawrth 2022
Amser: 10:00 am
Lleoliad: Ar-lein trwy Zoom
Archebwch eich tocyn am ddim isod.