Cynnalodd ni cystadleuaeth tynnu llun gyda Radio Abl ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Nghymru ac sydd ag anabledd dysgu.
Roedd ein cynhadledd flynyddol 2019, Dwi yma, yn edrych ar bwysigrwydd pobl gydag anabledd dysgu o bob oedran yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi ym mhob agwedd o fywyd. Yn yr ysgol, coleg, y gwaith, gartref, yn y gymuned, y celfyddydau, hamdden a safleoedd o awdurdod ac arbenigedd.
Mae cael eich gweld, eich clywed, eich cynnwys a’ch gwerthfawrogi yn helpu:
- lleihau stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl gydag anabledd dysgu
- rhoi grym a rheolaeth i bobl yn eu bywydau eu hunain
- llesiant pobl
Mae gwneud Cymru lle mae pobl gydag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi yn bwysig i bawb oherwydd:
- mae’n gwneud y mwyaf o sgiliau, gwybodaeth a doniau pobl
- mae’n helpu gwasanaethau i ddarparu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth gywir
- mae’n cyfrannu at gydlyniad cymunedol a datblygiad economaidd