Rydyn ni yn chwilio am bobl ag anabledd dysgu sydd am rannu eu profiadau a’u barn. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu talu a’u bwydo!
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn rhan o wasanaeth iechyd y GIG yng Nghymru.
Maen nhw yn gwneud fideos a hyfforddiant ar-lein i sicrhau bod pobl sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu yn gwybod am:
- Lleihau arferion cyfyngol.
- Cymorth ymddygiad cadarnhaol
Mae lleihau arferion cyfyngol yn ffordd i:
- Sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau a rheolaethau ym mywyd rhywun yn deg ac nad ydyn nhw yn torri’r gyfraith
- Darganfod y cynllun gorau i gefnogi rhywun mewn ffordd ddiogel.
Mae cymorth ymddygiad cadarnhaol yn ffordd i:
- Helpu pobl i fyw bywyd da
- Cefnogi pobl i ddysgu pethau newydd
- Helpu gofalwyr i ddeall a gwybod sut i gefnogi pobl ag ymddygiad sy’n herio.
Rydyn ni yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i:
- Darganfod pobl ag anabledd dysgu i ddod draw i ddigwyddiadau ac i ddweud eu dweud.
- Darganfod grwpiau a sefydliadau sydd eisiau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymweld â chi a darganfod beth sydd gennych i’w ddweud.
- Darganfod pobl sydd eisiau cael eu cyfweld ar gyfer ffilmiau am gymorth ymddygiad cadarnhaol a lleihau arferion cyfyngol.
Cliciwch yma os ydych am i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymweld â’ch grŵp. (dolen i archebu ar-lein syml)
Neu gallwch ffonio 029 2068 1160 neu e-bostio TheEventsTeam@ldw.org.uk i gael gwybod mwy neu archebu lle i chi.
Byddwn yn talu £15 os byddwch yn cymryd rhan.
Bydd yr holl ddigwyddiadau a ffilmio yn cael eu cynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a fydd yn casglu profiadau a barn pobl i wneud eu deunyddiau hyfforddi.
Nid yw Anabledd Dysgu Cymru yn cynnal y digwyddiadau hyn nac yn casglu profiadau a barn.