Ffyrdd creadigol o feithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch a sut mae’r dull I-Team yn helpu pobl i gynllunio bywyd da.
Ydych chi am ymuno â thrafodaethau sy’n edrych ar sut y gall pobl ag anabledd dysgu fod yn fwy cysylltiedig, cael cyfeillgarwch a pherthnasoedd a bywyd da?
Ymunwch â ni ar gyfer ein hail gyfarfod rhwydwaith Cysylltiadau Cymru.
Yn y cyfarfod hwn, bydd y canlynol yn ymuno â ni:
Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol
Byddwch yn clywed beth mae prosiect Mencap Cymru, Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol, wedi’i ganfod dros 3 blynedd. Fe wnaethon nhw gasglu llawer o straeon gan bobl ag anabledd dysgu a ddatgelodd pa mor bwysig yw cyfeillgarwch a pherthnasoedd a rhai o’r rhwystrau i bobl eu cael. Mae eu hadroddiad terfynol yn gwneud argymhellion ar gyfer helpu pobl i ddod o hyd i gyfeillgarwch a pherthnasoedd cryf a’u meithrin. Ymunwch â thrafodaethau i ystyried gwahanol ffyrdd y gallem i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud pethau’n well i bobl yn y dyfodol.
Anna Suschitzky, Arweinydd Datblygu Adrodd Straeon
Sian Davies, Pennaeth Rhaglenni Strategol a
Paul Hunt, Mencap Cymru
Dull I-Team
Byddwch yn clywed sut mae’r dull I-Team yn helpu pobl i gynllunio bywyd da. Mae’r dull I-TEAM (yn seiliedig ar ‘gylchoedd cymorth’) yn ddull sy’n newid bywydau lle mae pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cefnogi drwy ffrindiau a gweithwyr proffesiynol i gynllunio eu bywyd lle mae’r person yn y canol.
Mark John Williams, Cyd-Gyfarwyddwr Swyddfa Masnach a Busnes Sir y Fflint
Person ag anabledd dysgu sydd ag I-Team a
Marie James sy’n ofalwr teuluol.
Dyddiad: Dydd Mercher 7 Gorffennaf 2021
Amser: 10:00 yb tan 11:45 yb
Lleoliad: Ar lein trwy Zoom
Gallwch ddarganfod beth y buom yn siarad amdano yn y cyfarfod cyntaf ym mis Mawrth mewn erthygl yma.
Dyma ail gyfarfod y rhwydwaith ac mae croeso i bawb. Manylion am y rhwydwaith yma.