Ar-lein drwy Zoom
10:00 am tan 11:15 am
Ymunwch gyda’n cyfarfod diweddaraf o’r rhwydwaith Cymuned ymarfer technoleg wedi’i bersonoleiddio yn y gymuned Cymru gyfan i glywed a thrafod 2 strategaeth a fydd yn effeithio ar sut mae pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru yn defnyddio technoleg i gynyddu eu dewis, llais a rheolaeth.
Fe fydd Glyn Jones o Lywodraeth Cymru yn siarad am y Strategaeth Digidol i Gymru, ei themâu a’r ethos y tu ôl i’r strategaeth yn ogystal â sut mae’n berthynol i hyrwyddo technoleg i gynyddu llais, dewis a rheolaeth i bobl gydag anabledd dysgu.
Fe fydd Paul Mazurek, Cher Lewney a Kathryn Whitfield o raglen Gyda’n Gilydd Gogledd Cymru yn siarad am Strategaeth Technoleg Anabledd Dysgu. Fe fyddan nhw’n trafod nodau’r strategaeth, yr egwyddorion sydd yn sylfaen iddo ac effaith a chyfleoedd COVID-19.
Fe fydd cyfle i ofyn cwestiynau, i gael atebion ac i drafod.
Os nad ydych eisoes yn aelod o’r rhwydwaith, gallwch ymuno yma.
Archebwch eich tocynnau isod i’r digwyddiad am ddim yma.