Ymunwch gyda ni ar gyfer y cyfarfod cyntaf o’n rhwydwaith newydd Cysylltiadau Cymru sydd yn delio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.
Mae Cysylltiadau Cymru wedi cael ei sefydlu i:
- Chwilio a rhannu mwy o ddealltwriaeth am broblemau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
- Rhannu arfer da ar leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
- Creu cysylltiadau rhwng polisi ac arfer.
Yn y cyfarfod cyntaf yma fe fyddwn yn clywed gan siaradwyr a fydd yn rhoi eu persbectif eu hunain ar faterion unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
- Heather Graham, Cydgysylltydd Prosiect, Ffrindiau Gigiau
- Darparydd gwasanaeth cefnogi (i’w gadarnhau)
Fe fyddwn hefyd yn trafod sut y gallwn ddelio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wrth inni symud allan o’r cyfnod clo a chyfyngiadau eraill Covid-19.
Archebwch eich lle nawr.
Dyma gyfarfod cyntaf y rhwydwaith ac mae croeso i bawb. Os hoffech dderbyn gwahoddiadau i gyfarfodydd yn y dyfodol, newyddion a diweddariadau, os gwelwch yn dda ymunwch gyda’r rhwydwaith yma.
Cliciwch yma i ymunwch gyda’r rhwydwaith
31 Mawrth 2021
2:00 – 3:30 yp