10:00 yb to 12:30 yp ar Microsoft Teams
Mae cadw pellter cymdeithasol yn newid y ffordd rydyn ni’n gweithio, sut rydyn ni’n cefnogi pobl a sut rydyn ni’n rhoi’r wybodaeth maen nhw ei angen i bobl.
Rhywbeth y gall helpu i sicrhau bod yr wybodaeth ysgrifenedig rydyn ni’n ei rhannu yn glir ac yn hawdd ei ddeall.
Fe fydd y sesiwn yma yn eich cyflwyno i hanfodion gwneud gwybodaeth yn hawdd ei ddarllen a’i ddeall i bobl gydag anabledd dysgu.
Mae’r cwrs yma yn addas i unrhyw un sydd eisiau gwneud eu gwybodaeth ysgrifenedig yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl gydag anabledd dysgu.
Fe fydd y cwrs yn cynnwys
- Iaith glir
- Strwythur brawddegau
- Paragraffau
- Cynllun a dyluniad tudalennau
- Defnyddio delweddau
Sut fydd y sesiwn yn gweithio
- Pan fyddwch yn cofrestru fe fyddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymuno gyda’r sesiwn ar-lein.
- Fe fydd eich tiwtor yn eich tywys drwy’r cwrs, fe fyddwch yn gweld gwybodaeth ac enghreifftiau ar y sgrin yn ogystal â gallu gweld eich cyd gyfranogwyr a’r hyfforddwr/wraig.
- Fe fyddwch yn gallu gofyn cwestiynau a thrafod y dulliau gyda’r tiwtor a’ch cyd gyfranogwyr.
- Cewch gyfle i greu darn o ddeunydd hawdd ei ddeall. Fe fydd y tiwtor yn cysylltu gyda chi ar amser cytun ar ôl y cwrs a rhoi adborth a chyngor un i un i chi.
- Wedi i’r sesiwn ddirwyn i ben fe fyddwch yn derbyn e-bost gyda holl ddeunyddiau’r cwrs
Wedi’i archebu’n llawn