Rydyn ni eisiau clywed eich barnau ar yr hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc gydag anabledd dysgu yn y system addysg yng Nghymru. Rydyn ni’n gofyn am eich barnau er mwyn casglu tystiolaeth i ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farnau pobl ar ei chwricwlwm newydd trwy 8 ymgynghoriad gwahanol (dyddiad cau: 16 Gorffennaf 2021).
Mae diddordeb gyda ni ym marnau ein rhanddeiliaid i gyd gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu, rhieni a gofalwyr pobl ag anabledd dysgu, pobl sy’n gweithio mewn ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ymunwch â ni yn ein digwyddiad ymgynghori ar-lein i rannu eich barnau ac ymateb i’r cwestiynau canlynol:
- Pa amgylcheddau dysgu sy’n galluogi plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu i ddysgu?
- Sut gall Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu’n cael mynediad i’r un cyfleoedd a’u cyfoedion?
- Beth dylai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod Perthnasau ac Addysg Rhywioldeb yn hygyrch a pherthnasol i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu?
- Sut gall Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu’n cael mynediad i sgiliau gwaith o ansawdd da a hyfforddiant gyrfaol?
Dyddiad: Dydd Llun 5 Gorffennaf 2021
Amser: 10:00 yb tan 12:00 yp
Lleoliad: Ar-lein trwy Zoom
Os oes cwestiwn gyda chi neu hoffech chi gyfrannu at yr ymgynghoriad ond na allwch chi ddod i’n digwyddiad, ebostiwch ein Swyddog Polisi Grace Krause: grace.krause@ldw.org.uk.