Mae’r pandemig COVID-19 wedi atal a newid llawer o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud, ein perthnasoedd a’r cymorth rydyn ni’n eu gael.
Mae’r newidiadau yma wedi bod yn anodd i bawb, ond mae profiadau pob un ohonom yn wahanol.
Mae pobl gydag anableddau dysgu wedi cael eu profiadau a’u heriau unigryw eu hunain sydd yn rhaid eu deall, a rhaid gwrando arnyn nhw er mwyn inni allu cynllunio i wneud pethau’n well yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad yma yn ail mewn cyfres i amlygu effeithiau effaith y pandemig ar bobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru. Fe fydd yn rhannu rhagor o’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu o’r astudiaeth a thrafod beth mae hyn yn ei olygu i wasanaethau a pholisi nawr ac yn y dyfodol.
Fe fyddwn yn clywed gan arweinwyr ar draws Cymru am eu hymatebion i’r pandemig a’r cynlluniau ar gyfer cefnogi pobl gydag anableddau dysgu wrth i’r pandemig barhau. Fe fydd amser i chi siaad am beth sydd angen digwydd i sicrhau bod pobl gydag anableddau dysgu yn cael gwell profiadau yn y dyfodol.
Fe fydd y digwyddiad yma yn:
- Esbonio beth ydy’r Astudiaeth Coronafeirws ac Anabledd Dysgu.
- Rhannu a thrafod beth rydyn ni wedi ei ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn.
- Clywed beth ydy goblygiadau hyn ar bolisi a gwasanaethau i bobl gydag anableddau dysgu.
- Trafod beth rydych chi’n feddwl mae’r canfyddiadau yn ei olygu i’r dyfodol.
Cynhelir y digwyddiad yma gan y cyrff sydd wedi bod yn rhan o redeg yr Astudiaeth Coronafeirws ac Anabledd Dysgu yng Nghymru. Mae Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn gwneud yr astudiaeth gyda chymorth gan Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Pwy ddylai fynychu
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall profiadau pobl gydag anableddau dysgu yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru a beth mae hyn yn ei olygu i’r dyfodol
Siaradwyr yn cynnwys
Sophie Hinksman a Humie Webb, Cydgadeiryddiau, Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu
Joe Powell, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Stuart Todd, Prifysgol De Cymru
Wayne Crocker, Mencap Cymru
Mwy o gwybodaeth
Mae gwybodaeth am y digwyddiad yma ar gael drwy e-bostio un o’r bobl ganlynol:
Tracey@allwalespeople1st.co.uk
Dyddiad, amser a lleoliad
Ar-lein trwy MS Teams
Dydd Llun 21 Mehefin 2021
1:00 yp tan 2:30 yp
Os oes gennych anabledd dysgu ac os hoffech gael unrhyw help neu gefnogaeth i archebu lle ffoniwch Tracey ar 07956082211