Aros i Fyny yn Hwyr – dewis y bywyd rydyn ni eisiau
Ymunwch gyda ni am 10:30 am ar ddydd Mercher 20 Gorffennaf ar gyfer y cyfarfod diweddaraf o Cysylltiadau Cymru: ein rhwydwaith i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd.
Rydym yn edrych ymlaen at gael cwmni rhai o Lysgenhadon Aros i Fyny yn Hwyr Cymru yn y cyfarfod yma.
Mae mynd allan i weld band, mynd i’r dafarn, i gêm rygbi neu i weld ffrindiau yn rhan o fywyd bob dydd i lawer o bobl. Mae nifer o bobl gydag anabledd dysgu angen cefnogaeth i fynd allan a chael hwyl. Yn aml, mae’n rhaid iddyn nhw ffitio hyn o gwmpas oriau gwaith a phatrymau shifft gweithwyr cefnogi.
Mae Aros i Fyny yn Hwyr yn elusen DU sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau pobl gydag anabledd dysgu i fyw y ffordd o fyw o’u dewis nhw. Fe ddechreuodd y cyfan yn Brighton 10 mlynedd yn ôl ac arweiniodd at sefydlu prosiectau Ffrindiau Gigiau o amgylch y DU, yn cynnwys ein rhai ni yng ngogledd a de Cymru.
Mae Simon, Sophie, Tracey, a Victoria yn dair o’r wyth Llysgennad Aros i Fyny yn Hwyr dros Gymru. Yn y cyfarfod fe fyddan nhw yn:
- esbonio beth ydy Aros i Fyny yn Hwyr a pham ei fod yn bwysig
- dweud wrthych chi am eu 10 addewid ymgyrch diweddar a
- chyflwyno Ffrindiau Gig Cymru
Yna fe fyddwn ni’n siarad am sut y gallwch chi gefnogi’r nodau yma a chwarae rhan mewn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael gwneud y dewisiadau maen nhw eisiau yn eu bywydau.
Gallwch gyfarfod y llysgenhadwyr yma: https://stayuplate.org/ambassadors/
Dyddiad: Dydd Mercher 20 Gorffennaf
Amser: 10:30 am – 12:00
Lleoliad: Ar-lein drwy Zoom