Digwyddiad am ddim.
Ym mis Mawrth 2019 cyhoeddodd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol ganllaw “Comisiynu llety a chefnogaeth ar gyfer bywyd da i bobl gydag anabledd dysgu”.
Blwyddyn yn ddiweddarach rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno gyda ni i fyfyrio ar weithrediad ac effaith y canllaw.
Yn “Comisiynu ar gyfer bywyd da: blwyddyn yn ddiweddarach” fe fyddwn yn cyflwyno canfyddiadau ein hymarferiad meincnodi ar sut mae’r canllaw yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru.
Fe fydd siaradwyr o Lywodraeth Cymru, cyrff comisiynu, darparwyr, mudiadau hunaneiriolaeth a rhieni a gofalwyr yn rhoi eu persbectif ar y canllaw dros y 12 mis diwethaf.
Siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau:
- Dave Street, Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru
- Steve Garland, ymgynghorydd annibynnol
- Kathryn Whitfield, Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu Gogledd Cymru
- Steve Brown, Commissioning and Procurement Officer, Flintshire County Council
- Adrian Burke, Prif Weithredwr, First Choice Housing Association
- Joe Powell, Prif Weithredwr, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
- Many Evans, Prif Weithredwr, Mirus
- Andrew Belcher, Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Mirus
- Kate Young, Director, All Wales Forum of Parents and Carers
Dydd Mawrth 10 Mawrth, 9:45 – 3:15
Lleoliad: Futures Inn, Bae Caerdydd
Caiff y rhaglen ei huwchlwytho’n fuan
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim. Darperir cinio a lluniaeth.
Er bod hwn yn ddigwyddiad am ddim byddwch yn gorfod talu £30 os ydych wedi archebu lle ac os na fyddwch yn mynychu ar y diwrnod. Os na allwch ddod ffoniwch ni os gwelwch yn dda ar 029 2068 1160 i ganslo eich lle ac osgoi gorfod talu.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Cymorth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, gyda chymorth ariannol gan Fwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru.