Yn 2016 fe gafodd deddf newydd ei chreu o’r enw y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae rheolau newydd nawr am sut y dylai awdurdodau lleol asesu pobl ar gyfer gofal a chefnogaeth, llunio a darparu cynlluniau gofal yn seiliedig ar eu hasesiad.
Mae’r sesiwn yma yn rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cyflwyniad, trafodaeth a gwaith grŵp.
- Gwneud i chi feddwl am gyda beth rydych eisiau help.
- Gwneud i chi feddwl am ‘beth sydd yn bwysig i chi’.
- Beth i’w wneud os ydych angen gofal a chefnogaeth.
- Eich Asesiad.
- Beth mae llesiant yn feddwl
- Sut i gymryd rhan
- Gyda beth y gallwch gael help
- Eich Cynllun Gofal a Chefnogaeth
- Eich Adolygiad
- ‘Cerdyn Post o’r Dyfodol’.
- Cwis i weld beth rydych wedi ei ddysgu.
Fe fydd hyfforddwyr profiadol yn cyflwyno’r sesiwn, rhai gydag anableddau dysgu eu hunain.
Pa ddeunyddiau fyddwch chi’n eu cael?
- Fe fyddwch yn cael llawlyfr hyfforddi i’w ddefnyddio ac i’w gadw.
- Mae gwaith grŵp yn cynwys defnyddio lluniau a labeli gludiog.
- Fe fyddwch yn cael llyfryn hawdd ei ddeall ar asesu a chynllunio gofal.
Mae hon yn sesiwn 3 awr gyda chyfle i gael egwyl a lluniaeth.