Cyfarfod rhwydwaith rhad ac am ddim o Gysylltiadau Cymru
Mae croeso i bawb ymuno â’r rhwydwaith a chyfarfod.
Ers Covid, dydy llawer o wasanaethau a gweithgareddau dydd i bobl ag anabledd dysgu ddim wedi ailagor neu maen nhw yn cynnig llai o oriau i bobl sydd am eu defnyddio. Ni ofynnwyd i lawer o bobl beth oedd eu barn am y newidiadau hyn .
Mae pobl wedi cael llai o gyfleoedd i gwrdd â’u ffrindiau a chymryd rhan yn eu cymunedau, gan adael i bobl deimlo’n ynysig yn gymdeithasol ac yn unig.
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i:
- dod â phobl ynghyd i ddysgu beth sy’n digwydd ledled Cymru, gan gynnwys gwaith Mencap Cymru
- clywed straeon personol
- trafod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgynghori ac yn cyd-gynhyrchu â phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr ar ddarpariaeth gwasanaeth dydd.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys:
- Dyfodol gwasanaethau dydd – Sara Pickard a Paul Hunt, Mencap Cymru
- Ein profiadau o wasanaethau dydd – Adam Dawkins, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Kirsty Harley, Pobl yn Gyntaf RCT
- Safbwynt Awdurdod Lleol ar wasanaethau dydd – Sarah Day, ADSS Cymru, Julie Annetts, Llwyodraeth Cymruand Jim Wright, Torfaen CBC
Dydd: Dydd Iau 21 Mawrth 2024
Amser: 10:00 – 12:00
Lleodd: Zoom
Digwyddiad rhad ac am ddim.
Cliciwch yma i archebu’ch tocynnau am ddim
Os nad ydych yn aelod o Connections Cymru, gallwch gofrestru am ddim yma i gael gwahoddiadau a diweddariadau yn y dyfodol.