Unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y cwrs fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau i chi ar sut i ymuno gyda’r sesiwn.
Darperir y cwrs hwn mewn partneriaeth rhwng Cerebra , All Wales Forum of Parents and Carers ac Anabledd Dysgu Cymru.
Ar y cyd gyda Cerebra rydyn ni’n cynnal gweithdy ar ddefnyddio eu Pecyn Cymorth i gael mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus.
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr yn bennaf. Gall gweithwyr cymorth teuluol fynychu hefyd. Peidiwch â bwcio lle yn y gweithdy os nad ydych chi’n cyd-fynd â’r naill neu’r llall o’r categorïau hyn.
Nod y gweithdy ydy cefnogi teuluoedd sydd yn wynebu anawsterau mewn perthynas â darpariaeth gwasanaethau cefnogi iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Dydy’r gweithdy ddim yn rhoi cyngor cyfreithiol a datrys problemau unigol, ond mae’n siarad am strategaethau cyffredinol y gall rieni eu defnyddio i gael y gwasanaethau maen nhw eu hangen ar gyfer eu plentyn a’u teulu.
Mae’r gweithdy yn agored i gofalwyr teulu a gweithwyr cefnogi sydd yn helpu teuluoedd.
Erbyn diwedd y gweithdy fe fyddwch yn gallu:
Mae’r gweithdy yn cynnwys gweithio ar astudiaeth achos.
Cerebra ydy’r elusen sydd yn helpu teuluoedd gyda phlant â chyflyrau ymennydd i ddarganfod bywyd gwell gyda’i gilydd.
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur fe fyddwch angen
Os ydych yn defnyddio ffôn ddeallus neu dabled fe fyddwch angen
Unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y cwrs fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau i chi ar sut i ymuno gyda’r sesiwn.
Darperir y cwrs hwn mewn partneriaeth rhwng Cerebra , All Wales Forum of Parents and Carers ac Anabledd Dysgu Cymru.