Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer lansiad rhwydwaith darparwyr gwasanaethau dydd newydd Anabledd Dysgu Cymru.
Rydym am wella ansawdd ac ystod gwasanaethau a gweithgareddau yn ystod y dydd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.
Nod ein rhwydwaith yw
1. Gwella cydweithredu
Meithrin partneriaethau cryf ymhlith sefydliadau i rannu arferion gorau ac adnoddau.
2. Gwella gwasanaethau
Annog gwelliant parhaus ansawdd ac ystod gwasanaethau a gweithgareddau yn ystod y dydd.
3. Cynyddu asiantaeth
Sefyll dros hawliau pobl ag anabledd dysgu i gael dewis a rheolaeth dros wasanaethau dydd a gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt.
Yn y cyfarfod cyntaf hwn o’r rhwydwaith, byddwn yn trafod y nodau hyn, yn gweld enghraifft o wasanaeth dydd arloesol yng Nghymru ac yn gweithio mewn grwpiau i asesu’r heriau a’r cyfleoedd yn y tymor byr a’r tymor hir.
Cliciwch ym i weld cenhadaeth lawn, nodau a gwerthoedd y rhwydwaith.
Ar gyfer pwy mae’r cyfarfod hwn?
Mae’r cyfarfod hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â darparu, neu gymryd rhan mewn gwasanaethau dydd neu weithgareddau i bobl ag anabledd dysgu, gan gynnwys:
- Sefydliadau’r sector gwirfoddol neu’r trydydd sector
- Cyrff statudol
- Sefydliadau nid-er-elw
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
Pryd a ble mae’r cyfarfod?
Cynhelir y cyfarfod hwn ar-lein trwy MS Teams, bydd yn para am 1.5 awr gan gynnwys egwyl o 10 munud.
Dydd Mercher 7 Mai 2025
10:30 yb – 12:00 yp
Cliciwch yma i archebu eich lle am ddim