Nodau’r cwrs
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’r rhai hynny sydd yn newydd i faes awtistiaeth. Caiff cyfranogwyr eu cyfl wyno i gysyniadau a damcaniaethau sylfaenol yn berthynol i Anhwylderau Sbectrwm Awtistig.
Caiff y syniad o awtistiaeth fel anhwylder sbectrwm ei archwilio ynghyd ag agweddau biolegol, seicolegol ac ymddygiadol y cyfl wr.
Fe fydd y gweithdy yn cyfl wyno ddulliau ymarferol o weithredu ochr yn ochr ag egwyddorion damcaniaethol.
Mae’r cwrs yma yn rhyngweithiol gyda chyfl eoedd i drafod ac
i ofyn cwestiynau.
Ar ôl y cwrs fe fyddwch yn:
- Adnabod prif nodweddion ymddygiad i bobl ar y sbectrwm awtistig
- Deall y triawd o namau
- Deall amrediad y sbectrwm
- Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau neilltuol o ddeall iaith gyda phobl ar y sbectrwm awtistig
- Deall yr angen i gefnogi iaith lafar yn weledol i helpu dealltwriaeth
- Gwerthfawrogi pwysigrwydd trefn a hagwyladwyedd i bobl ar y sbectrwm awtistig
- Deall cymhelthdod rhyngweithio cymdeithasol
- Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau synhwyraidd i bobl ar y
sbectrwm awtistig.
Ar gyfer
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd yn cefnogi neu’n dod i gysylltiad gydag oedolion ar y sbectrwm awtistig ac a hoff ai ddatblygu eu dealltwriaeth o’r cyflwr.
Am yr Hyfforddwr
Mae Maggie wedi mwynhau gweithio gydag oedolion ag anabledd dysgu am y 22 mlynedd diwethaf. Mae’n rhan o Dîm Iechyd Anabledd Dysgu Cymuned, y Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith. Yno mae’n gweithio gyda gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau i ddeall yr amrywiol ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu a’r hyn sydd yn gallu bod yn anodd i bobl gydag anabledd dysgu. Mae Maggie yn cefnogi pobl i ddatblygu dulliau cyfathrebu y gall pawb eu defnyddio.