Darperir y cwrs hwn mewn partneriaeth rhwng RNIB ac Anabledd Dysgu Cymru.
Cefnogi pobl gydag anabledd dysgu
Cwrs am ddim. O 10:00 yb tan 11:00 yb
Yn aml mae ‘ymddygiad sydd yn herio’ yn arwydd nad ydy anghenion corfforol, cymdeithasol neu emosiynol rhywun yn cael eu hateb.
Nod yr hyfforddiant ydy cynyddu ymwybyddiaeth o gyffredinolrwydd colli golwg i bobl gydag anabledd dysgu.
Fe fydd yr hyfforddiant yn edrych ar sut y gall colli golwg effeithio ar ymddygiad rhywun. Fe fydd yn edrych ar pan mae colli golwg rhywun yn cael ei gydnabod a’r person yn derbyn cefnogaeth, sut y mae ansawdd eu bywyd yn gallu gwella a gostyngiad mewn ‘ymddygiad sydd yn herio’.
Erbyn diwedd yr hyfforddiant fe fydd y cyfranogwyr yn gallu:
- Bod yn ymwybodol o’r cynnydd mewn cyffredinolrwydd colli golwg i bobl gydag anabledd dysgu.
- Esbonio pam y gellir ‘cuddio’ colli golwg.
- Disgrifio cysgodi diagnostig a’i effaith ar bobl gydag anabledd dysgu.
- Adnabod sut y gall ymddygiad rhywun fod yn arwydd o golli golwg.
- Gwybod lle i ddarganfod adnoddau i gefnogi pobl gyda cholled golwg ac an anabledd dysgu.
Datblygwyd a chyflwynir yr hyfforddiant yma gan RNIB
Dysgu pellach
Gallwch hefyd fod â diddordeb yn y sesiwn hyfforddi Deall Colli Golwg, sydd ar gael:
Manylion archebu
Unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y cwrs fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau i chi ar sut i ymuno gyda’r sesiwn.
Eich manylion
Fe fydd enwau a chyfeiriadau e-bost unrhyw un sydd yn archebu lle ar y cwrs yma yn cael eu rhannu gyda RNIB i ddibenion gweinyddu a hwyluso’r cwrs yn unig. Ni fydd Anabledd Dysgu Cymru yn rhannu eich gwybodaeth gyda neb arall.