Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan – Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn Hawdd ei Ddeall
Hydref 2024 | Gwybodaeth i gleifion.
Gofynnodd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u llyfryn. Mae’r llyfryn yn darparu gwybodaeth i gleifion am ragnodi gwrthfiotigau wrth gefn. Fe’i cynlluniwyd i wneud gwybodaeth iechyd bwysig yn glir ac yn hygyrch i bawb.
Mae’r llyfryn yn esbonio beth yw rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn a phryd y dylid ei ddefnyddio. Mae’n helpu pobl i ddeall bod gwrthfiotigau ond yn helpu gyda heintiau bacteriol, nid firysau fel annwyd.
Mae’n cynnwys pryd a sut i gymryd y gwrthfiotig os oes angen a beth i’w wneud os bydd symptomau’n newid. Mae’n cynnwys cyngor ar reoli symptomau annwyd a ffliw cyffredin heb ddefnyddio gwrthfiotigau.
Mae’r llyfryn yn helpu cleifion i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a defnyddio gwrthfiotigau yn ddiogel ac yn effeithiol.
Rydym hefyd wedi gwneud fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r llyfryn Hawdd ei Ddeall.
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalennau Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan ar wefan GIG Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.