Gwelliant Cymru –Gwirio Proffil Iechyd Cymru Unwaith i Gymru Hawdd ei Ddeall

Hydref 2024 | Adroddiad gan Brifysgol De Cymru.

Gofynnodd Gwelliant Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o adroddiad newydd. Yn 2022, gofynnon nhw i’r Uned Datblygu mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol (UDIDD) ym Mhrifysgol De Cymru i wirio pa mor hawdd yw defnyddio Proffil Iechyd Unwaith i Gymru.

Mae’r Proffil Iechyd yn helpu pobl yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu i rannu gwybodaeth bwysig gyda gweithwyr iechyd.

Mae’r adroddiad yn rhannu adborth a gasglwyd gan bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a gweithwyr iechyd. Mae’n esbonio’r hyn a ganfuwyd ac yn awgrymu ffyrdd o wella’r Proffil Iechyd.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am fwy o ymwybyddiaeth, ffyrdd haws o ddiweddaru’r proffil, a gwell defnydd gan weithwyr iechyd i wella gofal a diogelwch.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r llyfryn Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth neu i rannu eich barn, ewch i wefan Gwelliant Cymru.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.