Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan – llyfryn Hawdd ei Ddeall am brawf alergedd Penisilin

Awst 2024 | Gwybodaeth i gleifion.

Gofynnodd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan i ni greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u llyfryn. Mae’r llyfryn yn wybodaeth i gleifion am y prawf alergedd penisilin. Fe’i cynlluniwyd i wneud gwybodaeth bwysig am iechyd yn hygyrch ac yn glir i bawb.

Mae’r llyfryn yn egluro beth yw penisilin, beth yw ystyr alergedd, a pha mor gyffredin yw alergeddau penisilin. Mae’n ymdrin â pham mae’r prawf yn bwysig, sut mae’n cael ei wneud, a beth i’w ddisgwyl ar ôl hynny.

Mae’n cynnwys sut mae’r canlyniadau’n cael eu trin a sut i gysylltu â’r tîm gofal iechyd os oes angen.

Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r llyfryn Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalennau Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan ar wefan GIG Cymru.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.