Uchelgais Gogledd Cymru – Cynllun Trafnidiaeth Hawdd ei Ddeall
Ebrill 2025 | Cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru – beth ydych chi’n feddwl?
Fe wnaethom weithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i greu fersiynau hawdd eu deall o’u cynllun a’u ffurflen ymateb. Mae’r rhain i gasglu adborth y cyhoedd ar eu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn bartneriaeth o’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru, ynghyd â rhai prifysgolion a cholegau. Fe wnaethon nhw weithio gyda’i gilydd i wneud y cynllun.
Mae’r cynllun yn esbonio sut y gallai trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru wella dros y pum mlynedd nesaf. Mae’n cynnwys newidiadau i drenau, bysiau, ffyrdd, llwybrau cerdded a beicio, a chysylltedd digidol. Y nod yw gwneud trafnidiaeth yn fwy diogel, yn fwy fforddiadwy, yn wyrddach, ac yn fwy cysylltiedig.
Mae’r ffurflen ymateb yn cynnwys cwestiynau am y newidiadau arfaethedig a sut y bydd cynnydd yn cael ei wirio.
Gallwch ddarllen y cynllun drafft hawdd ei ddeall yma. Cwblhewch yr arolwg erbyn 14 Ebrill 2025 i ddweud wrth Uchelgais Gogledd Cymru beth ydych chi’n feddwl.
Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg hawdd ei ddeall o’r cynllun a’r ffurflen ymateb. Mae’r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael PDF hygyrch yr arolwg Hawdd ei Ddeall.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Uchelgais Gogledd Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.