Amgueddfa Cymru – Adolygiad Blynyddol Hawdd ei Ddeall 2023 i 2024
Awst 2024 | Yr hyn a wnaeth Amgueddfa Cymru dros y flwyddyn.
Gofynnodd Amgueddfa Cymru i ni greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadolygiad blynyddol. Mae’r ddogfen yn adolygiad o’u gweithgareddau a’u cyflawniadau rhwng 2023 a 2024.
Mae’n rhannu’r hyn a wnaeth yr amgueddfa dros y flwyddyn ddiwethaf, fel faint o ymwelwyr a gawsant, prosiectau newydd a gychwynnwyd ganddynt, a digwyddiadau a gynhaliwyd.
Mae’n sôn am eu 6 ymrwymiad i fod yn gynhwysol, cefnogi creadigrwydd, diogelu’r amgylchedd, cefnogi llesiant, gwneud mwy o bethau’n ddigidol a gweithio gydag eraill ledled y byd. Mae hefyd yn dweud wrthych am ddigwyddiadau sydd i ddod yng ngweddill 2024.
Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r llyfryn Hawdd ei Ddeall.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Amgueddfa Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.