GIG Cymru – Gwasanaeth Archwilyddr Meddygol Cymru – Hawdd ei Ddeall

Mai 2024 | Gwybodaeth i bobl sydd wedi colli eu hanwyliaid.

Gofynnodd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei DDeall o’u llyfryn newydd. Mae’r llyfryn yn ymwneud â Gwasanaeth Archwilydd Meddygol Cymru ac mae’n darparu gwybodaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth.

Mae’r llyfryn yn esbonio beth yw’r Gwasanaeth Archwilydd Meddygol a sut maen nhw’n ymchwilio i farwolaethau. Mae hefyd yn trafod a allai cynlluniau angladd gymryd mwy o amser, beth allai’r Archwilydd Meddygol ofyn i chi, a beth i’w wneud os oes gennych unrhyw bryderon.

Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r cynllun.

Gallwch ymweld â gwefan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.