Llais – Ein 100 diwrnod cyntaf – Hawdd ei Ddeall

Gorffennaf 2023 | Ein 100 diwrnod cyntaf. Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu clywed.

Gofynnodd Llais i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u cynllun ar gyfer eu 100 diwrnod cyntaf.

Ffurfiwyd Llais ar 1 Ebrill 2023. Fe’i sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall pobl yng Nghymru gael llais mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn cwmpasu’r hyn y maent am ei wneud a’r hyn y maent am ei gyflawni yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf.

Fe wnaethon ni fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r cynllun hefyd. Mae’r ddwy ddogfen ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r cynllun.

Gallwch ymweld â gwefan Llais am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.