Creu Cymru – Adroddiad Cerdyn Hynt – Hawdd ei Ddeall
Tachwedd 2023 | Pa wahaniaeth y mae cerdyn Hynt wedi’i wneud i bobl a lleoedd.
Gofynnodd elusen Creu Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u Hadroddiad Effaith Hynt.
Mae cerdyn Hynt yn cefnogi pobl ag anghenion mynediad i fwynhau’r celfyddydau yng Nghymru. Nod Hynt yw gwneud theatrau a chanolfannau celfyddydau yn fwy hygyrch i bobl fyddar, pobl anabl a phobl niwroamrywiol.
Mae’r adroddiad yn sôn am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae cerdyn Hynt wedi’i wneud yng Nghymru, yr hyn sy’n gweithio’n dda a beth y gallent ei wneud yn well.
Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r cynllun. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r adroddiad.
Gallwch ddarganfod mwy am Creu Cymru yma a gallwch wneud cais am gerdyn Hynt yma.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.