Arfordir Penfro – Ymgynghoriad Hawdd ei Ddeall ar y cynllun ar gyfer y Parc Cenedlaethol

Gorffennaf 2024 | Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eisiau gwybod beth yw eich barn.

Gofynnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ni greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hymgynghoriad. Maen nhw eisiau eich adborth ar eu cynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer 2025 i 2029.

Mae’r ddogfen yn esbonio beth sy’n digwydd yn y parc, beth mae Awdurdod y Parc yn ei wneud a’u nodau. Maen nhw eisiau: Gofalu am natur a bywyd gwyllt, Helpu pobl i deimlo cysylltiad â’r parc a’i hanes, Ymladd newid yn yr hinsawdd, Cefnogi cymunedau lleol.

Mae’n gofyn cwestiynau am eich barn am y cynllun. Bydd eich syniadau a’ch adborth yn eu helpu i wneud fersiwn terfynol o’u cynllun.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r ymgynghoriad Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.