Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru – Adroddiad Blynyddol Hawdd ei Ddeall

Tachwedd 2024 | Beth wnaethon nhw rhwng 2023 a 2024.

Gofynnodd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad blynyddol. Mae’r adroddiad hwn yn rhannu’r gwaith a wnaethant rhwng 2023 a 2024.

Mae’r adroddiad hygyrch hwn yn tynnu sylw at feysydd allweddol, gan gynnwys gwaith cymunedol, trin trais difrifol, lleihau troseddau, a chwynion am yr heddlu. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ymdrechion i wneud cymdogaethau’n fwy diogel, cefnogi pobl, a hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae’n cynnwys data ar alwadau brys, arestiadau, a gostyngiadau mewn troseddau penodol. Mae’n esbonio arian a wariwyd ganddynt, arbedion cost, ac effaith y gyfraith newydd ar y Ddyletswydd Trais Difrifol.

Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r llyfryn Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.