Gofal Cymdeithasol Cymru – Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
Hydref 2024 | Beth ydych chi’n ei feddwl o’r newidiadau i weithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr?
Gofynnodd Gofal Cymdeithasol Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hymgynghoriad. Maen nhw eisiau gwybod beth yw eich barn chi am newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr. Rydym wedi gwneud arolygon ar wahân ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr.
Mae’r arolygon yn esbonio beth yw’r Cod Ymarfer Proffesiynol a pham ei fod yn bwysig.
Maen nhw’n ymdrin â’r newidiadau mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau eu gwneud. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau i’r newidiadau helpu gweithwyr a chyflogwyr i ddeall eu dyletswyddau’n well.
Mae’r arolygon yn gofyn a ydych chi’n credu bod y newidiadau’n glir ac yn hawdd eu deall. Maent hefyd yn gofyn a oes gennych unrhyw adborth arall ac yn esbonio sut i anfon eich barn drwy e-bost, post, fideo neu sain.
Mae angen i chi anfon eich adborth at Gofal Cymdeithasol Cymru erbyn hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2024.
Fe wnaethom hefyd fersiynau Saesneg Hawdd eu Deall o’r arolygon. Mae pob un ohonynt yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hawdd ei ddeall hygyrch o’r ymgynghoriad gweithwyr gofal cymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth ac i weld yr ymgynghoriad ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol, ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.