Llywodraeth Cymru – Diweddariad Hawdd ei Ddeall ar ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Mehefin 2024 | Cefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r wybodaeth ddiweddaraf am eu Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn 2022, mae’r cynllun yn ymwneud â’r hyn y maent yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r diweddariad hawdd ei ddeall hwn yn esbonio’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yma a beth y byddant yn ei wneud nesaf. Mae’n ymdrin â’u hymdrechion parhaus i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r diweddariad yn cynnwys ffyrdd y gallwch gymryd rhan a dweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw eich barn.

Fe wnaethon ni hefyd greu fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r diweddariad. Mae’r ddau fersiwn ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r diweddariad Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.