Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Byw mewn Tai Cyflwr Hawdd ei Ddeall
Rhagfyr 2024 | Adroddiad ar amodau tai cymdeithasol.
Buom yn gweithio gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad Byw mewn Tai Cyflwr Gwael.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar gwynion am damprwydd, llwydni ac amodau tai gwael mewn tai cymdeithasol. Mae’n edrych ar sut mae’r materion hyn yn effeithio ar iechyd ac yn amlygu problemau o ran sut mae rhai landlordiaid yn trin cwynion.
Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o oedi wrth ddelio â phroblemau, archwiliadau annigonol o eiddo, a’r effaith negyddol ar denantiaid bregus. Mae’r adroddiad hefyd yn rhannu enghreifftiau o arferion da, fel trin cwynion yn effeithiol ac archwiliadau trylwyr.
Mae’r argymhellion yn cynnwys arolygiadau rhagweithiol, atgyweiriadau amserol, cofnodi cwynion yn well, a blaenoriaethu tenantiaid bregus.
Mae’r adroddiad yn galw ar ddarparwyr tai i weithredu, gwella amodau tai a lleihau risgiau iechyd. Mae’r argymhellion hyn yn berthnasol i bob landlord cymdeithasol a darparwyr tai sector cyhoeddus yng Nghymru.
Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r adroddiad Hawdd ei Ddeall.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.