Cyngor Celfyddydau Cymru – Adroddiad Hawdd ei Ddeall ar waith ar gydraddoldeb rhwng 2022 a 2023

Gorffennaf 2024 | Yr hyn a wnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i gyrraedd eu nodau.

Gofynnodd Cyngor Celfyddydau Cymru i ni greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â’r gwaith a wnaethant ar gyfer cydraddoldeb rhwng 2022 a 2023.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisiau sicrhau y gall pawb gymryd rhan mewn creu, gwylio a gweithio mewn celf. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r 5 prif nod yn y cynllun cydraddoldeb.

Mae’n cynnwys y prif bethau a wnaethant i gyflawni’r nodau hynny rhwng 2022 a 2023. Mae’n cynnwys mwy am eu tîm, i bwy y gwnaethant roi arian a phwysigrwydd eu Pwyllgor Cydraddoldeb Strategol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i gynwysoldeb a thryloywder yn y celfyddydau.

Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r adroddiad Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.