Llywodraeth Cymru – Arolwg Gwasanaethau Dydd a Gwasanaethau Seibiant yng Nghymru Hawdd ei Ddeall

Ionawr 2025 | Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw eich barn chi.

Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u holiadur Cyfleoedd Dydd a Seibiant.

Mae’r arolwg yn holi am brofiadau pobl gyda gwasanaethau dydd a seibiant yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol ar gyfer cefnogi anghenion pobl a rhoi seibiant i ofalwyr.

Mae’r arolwg yn seiliedig ar adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024. Ei nod yw darganfod beth sy’n gweithio’n dda gyda’r gwasanaethau hyn, beth sydd angen ei wella a sut mae gwasanaethau wedi newid.

Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau ynghylch pa mor dda y mae gwasanaethau’n diwallu’ch anghenion, p’un a ydynt yn eich helpu i gadw’n iach, a sut maent yn eich cefnogi i ddysgu sgiliau neu ddod o hyd i swyddi. Mae hefyd yn gofyn am unrhyw newidiadau mewn gwasanaethau, sut rydych chi’n eu cyrchu, a’r defnydd o Daliadau Uniongyrchol, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i’w rheoli.

Bydd eich ymatebion yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall unrhyw faterion a gwella gwasanaethau dydd a seibiant.

Mae’r arolwg ar agor tan 4:00pm ddydd Mercher 19 Chwefror 2025.

Rydym hefyd wedi gwneud fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r arolwg Hawdd ei Ddeall.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.