Anabledd Cymru – Prosiect Mynediad i Wleidyddiaeth Hawdd ei Ddeall
Mawrth 2025 | Helpu mwy o bobl anabl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Buom yn gweithio gydag Anabledd Cymru i greu fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u Cyflwyniad Mynediad i Wleidyddiaeth.
Mae’r ddogfen hon yn esbonio’r Prosiect Mynediad i Wleidyddiaeth, sy’n ceisio helpu mwy o bobl fyddar ac anabl yng Nghymru i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith blaenorol oedd yn cefnogi pobl fyddar ac anabl i sefyll etholiad a chymryd rhan mewn prosesau gwleidyddol.
Bydd y prosiect yn gweithio drwy ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau. Bydd yn creu rhwydwaith ac yn datblygu siarter. Bydd yn darparu pecynnau cymorth ar sut i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sefyll mewn etholiad a chodi llais i sicrhau bod pobl fyddar ac anabl yn gallu cymryd rhan.
Mae’r prosiect hwn yn helpu pobl anabl i gael y cymorth a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, i greu cymdeithas fwy cynhwysol a chynrychioliadol.
Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r strategaeth. Mae’r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o drosolwg prosiect Hawdd ei Ddeall.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Anabledd Cymru neu e-bostiwch info@disabilitywales.org.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.