Clir a Hawdd – llawlyfr i wneud gwybodaeth ysgrifenedig yn hawdd ei darllen a’i deall i bobl gydag anabledd dysgu.
Mae’r llawlyfr clir a hawdd ar gael am ddim nawr. Gweler yr holl lawrlwythiadau isod.
Mae’r llawlyfr Clir a Hawdd ar gyfer unrhyw un sydd yn, neu a ddylai fod, yn cynhyrchu gwybodaeth hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu. Fe fydd yn cefnogi cyrff o wahanol faint i ddeall gwybodaeth hygyrch, pam ei bod yn bwysig i bobl gydag anabledd dysgu gael mynediad i wybodaeth y maen nhw’n gallu ei deall a sut i gynhyrchu deunyddiau hawdd ei ddeall. Fe fydd Clir a Hawdd o fantais i chi os ydych chi o grŵp Pobl yn Gyntaf, corff mawr i bobl anabl, adran gwasanaethau cymdeithasol, sector cyhoeddus neu yn ddarparydd gwasanaeth preifat, fel banc.
Mae’n cynnwys:
2 Ffilm
- Ffilm yn dangos pam bod gwybodaeth hygyrch yn bwysig ac mae’n dangos grŵp o bobl gydag anabledd dysgu yn esbonio rhai o’r anawsterau maen nhw’n ei gael gyda gwybodaeth sydd yn rhy anoddd i’w deall. 4 munud, 16 eiliad o hir.
- Ffilm yn rhoi trosolwg cyflym o pam mae hi’n bwysig cynhyrchu gwybodaeth mewn Hawdd ei Ddeall ac ychydig gynghorion ar sut i wneud hynny – 4 munud, 47 eiliad.
6 Llyfryn
Mae’r llyfrynnau wedi cael eu dylunio i‘ch tywys drwy’r gwahanol gamau o gynhyrchu gwybodaeth hawdd ei ddeall. Meddwl, Cynllunio, Gwneud a Gwirio.
Mae pumed llawlyfr, Newid, yn rhoi cyngor ar y newidiadau y gallwch eu gwneud fel bod gwybodaeth hygyrch yn dod yn flaenoriaeth yn eich corff; ac mae’r chweched llyfryn, Darganfod Rhagor, yn rhoi rhestr gyfeirio helaeth i chi o gyrff a gwybodaeth sydd yn gallu eich helpu i ddod yn gorff gwybodaeth hygyrch. Gweler y lawrlwythiadau llyfrynnau isod.
Offeryn Gwirio
Mae offeryn yn dod gyda’r llawlyfr i wirio ansawdd yr wybodaeth hawdd ei ddeall a gynhyrchwyd. Gweler yma
Canllawiau ar gyfer cynhyrchu Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg
Clir a Hawdd:
- Cynhyrchwyd gan Anabledd Dysgu Cymru, Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn 2012. Roedd yn rhan o brosiect yn hyrwyddo gwybodaeth hygyrch, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Ysgrifenwyd gan Anne Collis, o Barod, arbenigwriag gwybodaeth hygyrch gyda chefndir cryf mewn ymchwil cymdeithasol a pholisi cymdeithasol.
- Mae’n cyflwyno ‘Cymraeg/Saesneg bob dydd’ ac yn cynnig profion ansawdd darllenadwy syml.
- Mae’n canolbwyntio ar wybodaeth ysgrifenedig mewn fformat Hawdd ei Ddeall, ond gwneir cyfeiriadau drwy’r holl ganllaw at sut y gellir gwneud gwybodaeth ar gael mewn gwahanol fformatau.