Gan weithio gyda’n cydweithwyr yn Hawdd ei Ddeall Cymru, rydym yn darparu hyfforddiant ar-lein ac yn bersonol i’ch helpu i gynhyrchu eich dogfennau eich hun sy’n hawdd eu darllen a’u deall i bobl ag anabledd dysgu.
Mae gennym gyrsiau ar gyfer dechreuwyr a phobl sydd â phrofiad o ysgrifennu Hawdd ei Ddeall, a gyflwynir gan hyfforddwyr gwybodus a medrus.
Sesiwn blasu Hawdd ei Ddarllen
Gwneud gwybodaeth yn hawdd ei darllen a’i deall lefel 1
Gwneud gwybodaeth yn hawdd ei darllen a’i deall lefel 2
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau ar Teams, Zoom neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd neu yn eich lle!
“Sesiwn dda iawn yn wir. Wedi’i chyflwyno’n dda, gyda chyfarwyddiadau a chyngor clir. Cyfeillgar, hawdd mynd ato a chymerodd yr hyfforddwr amser i wrando ar gwestiynau pawb.”
“Hyfforddiant cadarnhaol a defnyddiol iawn. Gwnaeth i mi feddwl am bethau nad oeddwn hyd yn oed wedi eu hystyried e.e. rhwystrau posibl wrth greu dogfennau.”
Ffoniwch neu e-bostiwch ni am fwy o wybodaeth.
029 2068 1160