Mae ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru eisiau creu gwybodaeth Hawdd ei Ddeall defnyddiol sydd yn rhad ac am ddim.
Fel arfer mae hwn yn wasanaeth y mae ein cleientiaid yn talu amdano, ond rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth rydych chi eisiau a gwir ei angen.
Hawdd ei Ddeall Cymru:
Rydyn ni eisiau eich syniadau ar gyfer Hawdd ei Ddeall!
Rydyn ni yn chwilio am syniadau gan bobl sydd ag anabledd dysgu, grwpiau hunan eiriolaeth, teuluoedd, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.
Pam rydyn ni eisiau eich syniadau?
Rydyn ni eisiau gwneud Hawdd ei Ddeall sydd yn ddefnyddiol ac rydych wir ei angen. I wneud Hawdd ei Ddeall da rydyn ni’n siarad â’r bobl sy’n ei ddefnyddio. Mae eich adborth yn ein helpu gydag ansawdd ein holl waith.
Cofiwch ddweud wrth eich ffrindiau am hyn hefyd, y mwyaf o syniadau sydd gennym y gorau!
Pa syniadau ydyn ni eisiau?
Efallai eich bod chi wedi darllen rhywbeth neu weld rhywbeth yn y newyddion rydych chi eisiau gwybod mwy amdano.
Efallai bod pwnc rydych chi eisiau gwybod rhagor amdano
Neu oes rhywbeth rydych chi’n ceisio ei wneud ac rydych chi angen rhagor o wybodaeth amdano?
Gallai fod yn unrhyw beth, er enghraifft efallai y byddwch eisiau gwybodaeth Hawdd ei Ddeall am:
- Sut i ymuno gyda ap dêtio.
- Beth ydy’r pleidiau gwleidyddol yn y DU a sut ydych chi’n penderfynu pwy i bleidleisio drostyn nhw.
- Coginio.
- Edrych ar ôl anifail anwes.
- Cael benthyciad banc.
- Rhoi gwaed.
- Creu cyfrif cyfryngau cymdeithasol ac aros yn ddiogel ar-lein.
Mae angen iddo fod yn ddefnyddiol i lawer o bobl sydd ag anabledd dysgu, felly dydy e ddim yn gallu bod am lle rydych chi’n byw yn unig.
Ynglŷn â Hawdd ei Ddeall Cymru
Rydyn ni yn creu dogfennau Hawdd ei Ddeall hygyrch i bobl ag anabledd dysgu.
Rydyn ni’n gallu:
- Cyfieithu testun i Hawdd ei Ddeall.
- Dylunio dogfennau yn broffesiynol i gyd-fynd â brandio.
- Darparu PDF Hawdd ei Ddeall gorffenedig y gellir ei argraffu ac mae’n hygyrch yn ddigidol i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Rydyn ni wedi gweithio am dros 20 mlynedd gan wneud Hawdd ei Ddeall i lawer o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, cyrff pobl anabl ac elusennau.
Sut i anfon eich syniadau inni
Anfonwch eich syniadau inni erbyn diwedd mis Mawrth 2023.
Gallwch ddweud wrthyn ni am eich syniadau drwy:
- Llenwi ein ffurflen ar-lein
- Anfon e-bost i easyread@ldw.org.uk
- Twitter @EasyReadWales
- Ffonio ni ar 029 2068 1160
Ar ôl inni gael eich syniadau, fe fyddwn yn rhoi’r 5 uchaf ar-lein ac yn gofyn i bobl bleidleisio am eu hoff un. Fe fyddwn ni wedyn yn gwneud y syniad buddugol yn Hawdd ei Ddeall yn nes ymlaen y flwyddyn yma.
Pan fydd wedi ei orffen fe fydd ar gael am ddim ar ein gwefan. Fe fyddwn ni’n dweud wrth bawb ei fod yn barod trwy gylchlythyr Anabledd Dysgu Cymru ac ar Twitter a Facebook.
Rydyn ni yn edrych ymlaen at glywed eich syniadau!