Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi cynhyrchu canllaw hawdd ei ddeall i’r System Rhybuddion Brys sy’n cael ei brofi ddydd Sul 23 Ebrill am 3pm.
Cyflwynwyd y System Rhybuddion Brys gan Lywodraeth y DU i anfon negeseuon brys yn rhybuddio’r cyhoedd am sefyllfaoedd sy’n peryglu bywyd fel llifogydd neu danau gwyllt. Mae systemau tebyg yn cael eu defnyddio yn yr Unol Daleithiau, Canada, Siapan a gwledydd eraill ledled y byd.
Gallwch lawrlwytho’r canllaw hawdd ei ddeall ar gyfer prawf y System Rhybuddion Brys isod. Mae wedi’i wneud gan Hawdd ei Ddeall Cymru – tîm gwybodaeth hygyrch Anabledd Dysgu Cymru.
Rhybudd Brys Newydd Llywodraeth y DU – canllaw hawdd ei ddeall
Beth sydd angen i chi ei wybod am brawf y System Rhybuddion Brys newydd
Bydd prawf y system yn cael ei anfon i bob ffôn clyfar 4G a 5G yn y DU am 3pm ddydd Sul 23 Ebrill. Bydd y rhybudd prawf yn 10 eiliad o sain a dirgryniad.
Ar gyfer y prawf, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau – bydd y sain a’r dirgryniad yn stopio’n awtomatig ar ôl 10 eiliad. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw dileu’r neges neu glicio ‘OK’ ar sgrin gartref eich ffôn – yn union fel ar gyfer rhybudd neu hysbysiad ‘batri isel’ – a pharhau i ddefnyddio eich ffôn fel arfer.
Ni fydd pobl sydd wedi diffodd eu ffonau yn derbyn y neges – ond bydd yn canu os bydd eich ffôn yn cael ei droi i fod yn dawel.
Dywedodd gweinidog llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y system, Oliver Dowden, y byddai’r system rybuddio yn cael ei defnyddio dim ond mewn sefyllfaoedd lle roedd risg uniongyrchol i fywyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn cael ei dargedu at ardaloedd penodol iawn, yn hytrach na’r DU gyfan ac, yn ôl swyddogion, efallai na fydd yn cael ei ddefnyddio am fisoedd neu flynyddoedd.
Gwyliwch y fideo isod i weld a chlywed sut mae’r rhybuddion brys yn gweithio.
Gallwch lawrlwytho ein canllaw hawdd ei ddeall ar gyfer prawf y System Rhybuddion Brys isod.
Rhybudd Brys Newydd Llywodraeth y DU – canllaw hawdd ei ddeall
I gael rhagor o wybodaeth am y System Rhybuddion Brys ewch i https://www.gov.uk/alerts.