Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn hawdd ei ddeall ‘Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod’, sydd yn mapio trywydd am ddod allan o’r cyfnod cloi yng Nghymru.
Mae’r cynllun hawdd ei ddeall, a gynhyrchwyd gan Anabledd Dysgu Cymru, yn manylu’r camau y mae Llywodraeth Cymru’n ystyried wrth iddi arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws. Mae’r cynllun yn esbonio’r system goleuadau traffig am ddod allan o’r cyfnod cloi, a’r hyn sydd ei angen i ail-agor rhannau gwahanol o’r economi a’r gymdeithas y mae’n perthyn iddyn nhw.
- Addysg a gofal i blant
- Symud o gwmpas
- Gweld teulu a ffrindiau
- Ymarfer, chwarae chwaraeon a gemau
- Ymlacio ac adegau arbennig
- Gweithio neu redeg busnes
- Mynd i siopa
- Defnyddio gwasanaethau cyhoeddus
- Mynd i leoedd fel yr eglwys
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y diwedderir y cynllun yn rheolaidd a byddan nhw’n dal i siarad â llawer o bobl o’n cymunedau, busnesau a gwasanaethau, i sicrhau eu bod nhw’n gwneud y penderfyniadau gorau.
Lawrlwythwch “Dod allan o gyfnod cloi coronafeirws yng Nghymru – hawdd ei ddeall”
Am yr wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.