Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ddiwygio’r system nawdd cymdeithasol trwy wneud y toriadau mwyaf i fudd-daliadau anabledd erioed. Gallai hyn gael effaith sylweddol ar bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr ledled Cymru.Magnifying glass with lots of different groups of people within the lens

Pam mae Llywodraeth y DU yn gwneud y newidiadau hyn?

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif nad yw tua 2.8 miliwn o bobl yn y DU sydd â salwch hirdymor ar hyn o bryd mewn gwaith, hyfforddiant nac addysg ac ers y pandemig, mae nifer y bobl o oedran gweithio sy’n derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) wedi mwy na dyblu. Mae nifer y bobl ifanc (16-24) sy’n derbyn PIP hefyd wedi cynyddu.

Yn ôl y llywodraeth, gallai gwariant ar fudd-daliadau gyrraedd £70 biliwn y flwyddyn erbyn 2030 neu dros £1 biliwn yr wythnos os nad yw’n gwneud newidiadau.

Beth yw’r newidiadau arfaethedig?

  • Dod â’r Asesiadau Gallu Gwaith (WCA) i ben erbyn 2028: Mae’r asesiadau hyn yn penderfynu p’un a yw rhywun yn addas ar gyfer gwaith ai peidio. Maen nhw’n cael eu sgrapio oherwydd ei bod yn bosib eu hystyried fel rhwystr i bobl sydd eisiau mynd i waith.
  • Disodli WCA gyda’r asesiad PIP: Bydd unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cyflyrau iechyd yn cael ei asesu trwy asesiad sengl newydd yn seiliedig ar yr asesiad PIP, sy’n ystyried effaith anabledd ar fywyd bob dydd, nid ar allu rhywun i weithio.
  • Meini prawf PIP llymach: O fis Tachwedd 2026, bydd PIP yn cael ei dargedu at y rhai ag anghenion mwy cymhleth trwy ofyn am o leiaf 4 pwynt mewn o leiaf 1 gweithgaredd bywyd bob dydd (er enghraifft, rheoli arian, rhyngweithio cymdeithasol neu reoli anghenion defnyddio’r toiled). Mae hyn yn golygu y gallai’r rhai sy’n ei dderbyn ar hyn o bryd am ‘anawsterau llai difrifol’ golli eu hawl, hyd yn oed os oes ganddynt fwy na 4 pwynt ar draws ystod o weithgareddau bywyd bob dydd.
  • Dim ailasesiadau ar gyfer pobl anabl neu’r rhai sydd â chyflyrau gydol oes nad ydynt byth am allu gweithio: Byddai hyn yn gwneud y broses yn llai o straen i rywun y mae ei gyflwr neu anabledd yn annhebygol o newid.
  • Ceisiadau budd-daliadau iechyd Credyd Cynhwysol (UC) wedi’u rhewi: O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd taliadau’n cael eu rhewi ar gyfer pobl sy’n hawlio’r budd-dal iechyd Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd. Ar gyfer hawlwyr newydd, bydd y swm hwn yn cael ei haneru i £50 yr wythnos yn 2026/2027 a’i rewi tan 2030.
  • Budd-daliadau iechyd wedi’u gohirio i blant dan 22 mlwydd oed: Mae’r llywodraeth yn ymgynghori a allant ohirio’r budd-dal iechyd o dan Gredyd Cynhwysol i bobl anabl ifanc nes iddynt gyrraedd 22. Mae hyn yn golygu, os ydynt yn hawlio Lwfans Byw Anabl (DLA) tan eu bod yn 18 mlwydd oed, bydd bwlch o 4 blynedd nes y gallant gael budd-dal iechyd UC.
  • Hawl i roi cynnig ar waith heb ofni colli budd-daliadau: Bydd hyn yn cael ei gyflwyno i helpu pobl anabl neu’r rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor i ddod o hyd i waith ystyrlon sy’n addas ac yn eu cefnogi heb iddynt ofni colli eu taliadau budd-daliadau am gyfnod o amser.
  • Darparu cymorth cyflogaeth gwerth £1bn i bobl anabl neu’r rhai sydd â chyflwr iechyd sy’n gallu gweithio ac eisiau gweithio: Mae hyn yn cynnwys hyfforddwyr swyddi a ‘Sgyrsiau Cymorth Newydd’ i helpu gyda gosod nodau.

Beth fydd y newidiadau yn eu golygu?

  • Gallai pobl sy’n derbyn PIP golli arian yn y dyfodol: Amcangyfrifir y gallai rhwng 800,000 a 1.2 miliwn o bobl golli eu hawl. Gallai hyn yn ei dro effeithio ar allu pobl i fanteisio ar gymorth ar gyfer costau iechyd a gofal, taliadau tywydd oer a chardiau teithio.
  • Gallai gofalwyr di-dâl golli arian hefyd: Os yw’r meini prawf PIP yn newid ac nad yw pobl yn gymwys mwyach, gallai olygu y gallai gofalwyr pobl anabl neu y rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor hefyd golli eu Lwfans Gofalwr.
  • Ni fydd pobl anabl 18-22 mlwydd oed yn cael budd-daliadau iechyd: Ni fydd pobl ifanc sy’n cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) hyd nes eu bod yn 18 mlwydd oed yn gymwys i gael elfen iechyd Credyd Cynhwysol nes eu bod yn 22 mlwydd oed.
  • Tlodi cynyddol: Amcangyfrifir y bydd y diwygiadau yn gwthio 250,000 o bobl ychwanegol yn y DU i dlodi, gan gynnwys 50,000 o blant.

Yn ôl arbenigwr economi wleidyddol Prifysgol Caerdydd, Guto Ifan, “Oherwydd y gyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio sy’n derbyn PIP yng Nghymru (11%, o’i gymharu â 7% yn Lloegr), byddem yn disgwyl i effaith y toriadau hyn fod yn arbennig o amlwg yng Nghymru.”

Rhannodd Sioned Williams AS a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, ei phryderon hefyd am yr effaith y bydd y toriadau yn ei chael ar bobl anabl ledled Cymru. “Mae gennym ni gyfraddau uwch o bobl anabl yng Nghymru na chyfartaledd y DU. Bydd effaith y toriadau digynsail hyn i fudd-daliadau anabledd yn ddinistriol.”

Beth nesaf?

Ochr yn ochr â’r toriadau arfaethedig, rhyddhaodd y llywodraeth y ‘Papur Gwyrdd Llwybrau i’r Gwaith: Diwygio Budd-daliadau a Chefnogaeth i Gael Prydain yn Gweithio‘ a lansio ymgynghoriad er mwyn i bobl rannu eu barn.

Mae’r ymgynghoriad yn para am 12 wythnos ac yn dod i ben ddydd Llun 30 Mehefin 2025 am 11.59pm.

(Sylwer: Ar hyn o bryd nid oes fersiwn hawdd ei ddeall o’r ymgynghoriad ar gael ond pan fydd yna, byddwn yn cynnwys y ddolen yma.)

Ein barn ni

Er bod elfennau o’r cyhoeddiad hwn yr ydym ni’n eu croesawu, gan gynnwys dileu ailasesiadau i bobl na fydd byth yn gallu gweithio, cyllid ar gyfer hyfforddwyr swyddi, a’r hawl i roi cynnig ar gyflogaeth heb ofn colli budd-daliadau, rydym yn gweld y newidiadau hyn fel ymosodiad arall ar bobl anabl sydd eisoes yn wynebu heriau enfawr yn eu bywydau.

Rydym ni’n gwybod bod llawer o bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd eisoes yn profi caledi ariannol oherwydd costau cynyddol felly rydym yn hynod bryderus y bydd y toriadau hyn yn gwthio mwy o bobl i dlodi. Nid yw PIP yn fudd-dal ‘allan o waith’ ac mewn gwirionedd mae llawer o bobl anabl yn dibynnu ar y taliadau hyn i’w galluogi i weithio a chynnal eu hannibyniaeth. Rydym ni’n siomedig bod y cwestiynau cyfyngol ac arweiniol yn yr ymgynghoriad yn golygu na all pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd roi adborth yn gywir am y goblygiadau ariannol y mae’r toriadau hyn yn debygol o gael ar eu bywydau bob dydd.

Mae’r diffyg gwybodaeth hawdd ei deall yn frawychus ac yn golygu bod pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn cael eu gadael allan o’r sgwrs, yn methu â lleisio eu pryderon. Er bod y dudalen ymgynghori yn dweud y bydd yn cael ei diweddaru gyda’r rhain maes o law’, rydym ni’n poeni na fydd digon o amser i’r rhai sydd angen dogfennau hygyrch rannu eu barn.

Ymatebodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru, i’r cyhoeddiadau:

“Efallai mai’r diffyg dealltwriaeth ynghylch budd-daliadau a sut maen nhw’n cefnogi pobl yw’r camgymeriad mwyaf yn y cyhoeddiadau hyn. Mae rhannu’r cynigion a pheidio â sicrhau bod gwybodaeth hygyrch ar gael o’r dechrau yn gwbl wahaniaethol. Mae’n gyfnod hynod bryderus i bobl anabl a’u teuluoedd yng Nghymru. Bydd cost ddynol y diwygiadau hyn yn ddeg gwaith a bydd y pwysau sydd eisoes yn bodoli yn ffrwydro. Bydd pobl anabl, gofalwyr a chefnogwyr yn cario pwysau’r diwygiadau hyn a bydd y bwlch tlodi yn parhau i gynyddu.”

Beth allwch chi ei wneud?

Os ydych yn anghytuno â’r toriadau arfaethedig, gallwch ymateb i’r ymgynghoriad uchod i rannu eich barn. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o ffyrdd o weithredu ar wefan Disability Rights UK.