Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi canllawiau a fydd yn golygu bod mwy o bobl ag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6.
Mae’r erthygl hon yn esbonio pwy fydd yn cael eu cynnwys, sut y bydd pobl yn cael eu nodi, ble fydd pobl yn mynd am y brechlyn, beth sy’n digwydd nesaf, cyngor a chymorth (gan gynnwys hawdd eu deall) ac mae sefydliadau sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i gynorthwyo dull mwy cynhwysol.
Pwy sydd yng ngrŵp blaenoriaeth 6?
Mae’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi nodi y dylid gwahodd pobl ag anabledd dysgu difrifol/dwys ac unigolion â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, neu unrhyw salwch meddwl sy’n achosi nam swyddogaethol difrifol i’w frechu yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Mae’r canllawiau’n esbonio’r meini prawf i’w defnyddio i nodi unigolion i fynd i mewn i’r grŵp hwn ac mae’n defnyddio dull ‘cynhwysol’.
Mae’r canllawiau’n dweud: “Rydym yn rhoi disgresiwn i ymarferwyr sicrhau nad oes unrhyw berson agored i niwed yn y grwpiau hyn yn cael ei golli neu ei adael ar ôl”.
Pwy arall fydd yn cael eu cynnwys?
Er nad yw’r categori hwn wedi newid ac felly nad yw’n cynnwys pawb ag anabledd dysgu, dylai’r dulliau o nodi pobl arwain at gynnwys mwy o bobl:
Maen nhw wedi nodi rhai ffactorau ‘risg’ ychwanegol sy’n sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys:
- agored i niwed ac yn fregus yn glinigol: Presenoldeb cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes / sy’n cyd-ddigwydd a lefel cymhlethdod y cyflyrau iechyd hynny
- ethnigrwydd
- ffactorau cymdeithasol-economaidd
- math o let: byw mewn lleoliad cymunedol, er enghraifft, mewn tai â chymorth neu leoliad adsefydlu preswyl
- methu ymarfer ymddygiadau amddiffynnol fel ymbellhau cymdeithasol, gwisgo masg a hylendid dwylo yn gyson
- gallu i gadw at drefn driniaeth a goddef ymyrraeth
- hysbys i wasanaethau fel y tîm anabledd dysgu.
Sut bydd pobl yn cael eu nodi?
Bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn yr egwyddor a’r gwerth o fod yn fwy, yn hytrach na llai, cynhwysol er mwyn osgoi colli’r bobl fregus hynny y dylid eu brechu. Maen nhw’n disgwyl i hyn arwain at flaenoriaethu mwy o bobl o dan grŵp blaenoriaeth 6 nag a allai fod yn wir fel arall yn seiliedig ar ddehongliad llym o ganllawiau’r JCVI.
Bydd Byrddau Iechyd yn gweithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys meddygon teulu, yr awdurdod lleol, timau anabledd dysgu cymunedol teuluoedd neu ofalwyr, a sefydliadau’r trydydd sector.
Bydd y rhestrau meddygon teulu presennol a’r codau adnabod ar gyfer anabledd dysgu a salwch meddwl difrifol yn cael eu llwytho i mewn i System Imiwneiddio Cymru (WIS) a’u hychwanegu at restr grŵp blaenoriaeth 6.
Bydd meddygon teulu yn cael disgresiwn clinigol i ychwanegu unigolion at grŵp blaenoriaeth 6, a all fod yn gymwys ond nad ydynt wedi’u rhestru yn y system genedlaethol.
I ble fydd pobl yn mynd am y brechlyn?
Ystyrir mai meddygfeydd teulu yw’r lle gorau ar gyfer y brechlyn, yn hytrach na chanolfannau brechu torfol, gan y bydd pobl fwy na thebyg yn teimlo’n llai pryderus mewn lle cyfarwydd a llai. Fodd bynnag, dewis yr unigolyn fydd hynny.
Bydd angen nodi a rhoi addasiadau rhesymol ar waith i alluogi unigolion i gael cymorth ac i deimlo’n hyderus i fynychu a chael eu brechu.
Lle mae angen asesiad o fudd gorau i gefnogi capasiti, dylid defnyddio’r prosesau lles gorau presennol sy’n cynnwys teuluoedd, staff cymorth ac eiriolwyr penodedig lle bynnag y bo modd. Mae’r canllawiau’n rhoi mwy o wybodaeth am allu meddyliol a phenderfyniadau lles gorau.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd meddygon teulu yn nodi pobl ac yn eu gwahodd am apwyntiad. Ar y pwynt o ysgrifennu hwn (3 Mawrth) ni ddylai pobl gysylltu â’u meddyg teulu. Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu* yn gofyn i Lywodraeth Cymru am arweiniad ar pryd y dylai pobl gysylltu â’u meddyg teulu os nad ydynt wedi cael eu galw am frechu.
Gofalwyr Di-dâl
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Canllawiau ar frechlyn COVID-19 ar gyfer gofalwyr cymwys di-dâl fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.
Cymorth a chefnogaeth bellach
I gael help a chyngor, ffoniwchLinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru: 0808 8000 300
Canllawiau Llywodraeth Cymru: Brechlynnau Covid-19 i unigolion ag anabledd dysgu neu salwch meddwl difrifol
Canllawiau Hawdd eu Deall gan Lywodraeth Cymru: Brechlyn COVID-19 i bobl gydag anabledd dysgu difrifol neu salwch meddwl difrifol (PDF)
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Taflenni brechlynnau hawdd eu deall (a fformatau eraill)
Anabledd Dysgu Cymru: Gwybodaeth hawdd ei ddeall ar y brechlyn Coronafeirws nawr ar gael
Anabledd Dysgu Cymru: Coronafeirws – adnoddau i bobl gydag anabledd dysgu a’u cefnogwyr nhw
Lobïo gyda’n gilydd
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu wedi bod yn gweithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod mwy o bobl ag anabledd dysgu yn cael eu hychwanegu at y rhestr flaenoriaeth. Mae’r Consortiwm yn croesawu’r dull cynhwysol newydd.
Ymgyrch y Consortiwm Anabledd Dysgu
Fe wnaeth y Consortiwm Anabledd Dysgu lansio ymgyrch hefyd, ochr yn ochr â sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru, i gael cymorth gan bobl yn y sector anabledd dysgu. Gofynnodd yr ymgyrch i bobl anfon e-bost at eu Haelod o’r Senedd (MS) gyda neges barod i fwy o bobl gael eu cynnwys yn y grŵp blaenoriaeth 6. Hoffem ddiolch i’r holl bobl hynny a gefnogodd ein hymgyrch ac a anfonodd e-bost at eu haelod o’r Senedd. Anfonwyd dros 3,000 o e-byst.
Cefnogaeth gan Delyth Jewell AS
Hoffem hefyd ddiolch i Delyth Jewell AS sydd wedi bod yn ymgyrchu dros bobl ag anabledd dysgu i dderbyn y brechlyn ac sydd wedi gweithio’n agos gyda’r consortiwm. Trydarodd:
“Mae’n newyddion gwych y bydd pobl ag anableddau dysgu nawr yn cael blaenoriaeth ar gyfer brechlynnau. Da iawn i’r ymgyrchwyr niferus sydd wedi brwydro i newid y polisi hwn – mae’n hen bryd. “Mae cwestiynau heb eu hateb o hyd am y broses, ond mae heddiw’n ddiwrnod (24/2/21) i ddathlu”
*Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau cenedlaethol y trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teuluol. Mae’r aelodaeth yn cynnwys Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cymorth Cymru, Cymdeithas Syndrom Down, Anabledd Dysgu Cymru, a Mencap Cymru.