Rydym am i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi. Rydym yn chwilio am rhywun sy’n angerddol am ymgyrchu dros hawliau pobl ag anabledd dysgu a sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed i’n helpu i ddylanwadu ar newid a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.A diverse group of people

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hynod bwysig i ni, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwerthoedd ein tîm. Mae’r ffordd rydym yn gweithio yn deg, yn gynhwysol ac yn hyblyg ac mae ein tîm yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Gobeithiwn y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm cyfeillgar, ffyddlon ac angerddol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych wedi profi gwahaniaethu wrth ymgeisio am swyddi gan ein bod wedi ymrwymo i gynyddu a chefnogi gweithlu amrywiol.

Darganfyddwch fwy am weithio i Anabledd Dysgu Cymru yma.

Swyddog Polisi a Chyfathrebiadau

Oriau a lleoliad: 30 awr yr wythnos y gellir eu gweithio’n hyblyg dros yr wythnos. Byddwch yn gweithio yn ein swyddfa yn Llanisien, Caerdydd a gallwch hefyd weithio rhai o’ch oriau o’ch cartref. Fodd bynnag, os na allwch deithio i’r swyddfa, efallai y gallwch ofyn am fod yn weithiwr cartref.

Cyflog: Cyflog  blynyddol gwirioneddol o £23,837 yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,191 yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos (cyfwerth ag amser llawn £29,399 yn codi i £32,303).

Hyd y swydd: Ar hyn o bryd mae’r swydd wedi’i chyllido tan 31 Mawrth 2026 a bydd yn parhau yn amodol i gyliid yn y dyfodol

Hyd y swydd: Ar hyn o bryd mae’r swydd yn cael ei hariannu tan 31 Mawrth 2026 ond bydd yn parhau yn amodol ar gyllid yn y dyfodol.

Y rôl: Bydd y swydd hon yn gweithio ar draws ein holl brosiectau ac yn helpu i gyfleu ein barn ar bolisi anabledd dysgu drwy ymchwilio a chynhyrchu ymatebion polisi, datganiadau i’r wasg a chynnwys cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn deall y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth a bod gennych wybodaeth ymarferol am bolisïau perthnasol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Fe fydd deiliad y swydd angen gwiriad DBS hefyd.

Am fwy o fanylion gweler isod:

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 7.5%
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn codi i 28 diwrnod ynghyd â gwyliau banc
  • Tâl salwch
  • Absenoldeb dibynyddion â thâl ac amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau meddygol
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr i chi a’ch teulu
  • Brechiadau ffliw am ddim a phrofion llygaid
  • Swyddfa eang fodern
  • Cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus ardderchog
  • Parcio am ddim
  • Raciau beic
  • Yn agos at siopau ac amwynderau

Darganfyddwch fwy am weithio i Anabledd Dysgu Cymru yma

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV atom a llythyr eglurhaol neu glip fideo yn dweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl a sut rydych chi’n cwrdd â phob rhan o’r fanyleb person.

Os ydych chi eisiau help neu angen ffordd wahanol o wneud cais, anfonwch e-bost atom yn enquiries@ldw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 20681160.  Byddwn yn cynnig cyfweliad i bobl anabl neu bobl sy’n profi hiliaeth os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.  Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cwrdd â’r categori hwn, rhowch wybod i ni heb roi unrhyw fanylion pan fyddwch chi’n gwneud cais.  Ni fydd yr wybodaeth hon yn cael ei datgelu i’r panel hyd nes y bydd y rhestr fer wedi ei chreu.

Os yw’n bosibl, anfonwch e-bostiwch eich cais i’r enquiries@ldw.org.uk. Os na allwch ei anfon drwy e-bost, gallwch ei bostio atom yn: Anabledd Dysgu Cymru, 41 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG.

Dyddiad cau: 8 Ionawr 2025

Dyddiad cyfweliad: 22 Ionawr 2025