Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o gael 25 o redwyr yn codi arian i Ffrindiau Gig Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Mawrth – yn cynnwys 6 o redwyr o brif gyllidwr ein prosiect, First Choice Housing. Gan ddechrau heddiw rydym yn rhoi sylw i’n rhedwyr, yn cynnwys dolenni i’w tudalennau codi arian i unrhyw un sydd yn dymuno eu cefnogi.
Mae Ffrindiau Gig Cymru yn paru oedolion gyda a heb anabledd dysgu sydd yn rhannu’r un diddordebau fel eu bod yn gallu mynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd. Mae’n ddull syml ac effeithiol iawn o ddelio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd, tra’n creu ffrindiau newydd sydd yn gallu mwynhau’r celfyddydau, chwaraeon a phrofiadau newydd gyda’i gilydd.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a chyfranogwyr newydd yn Ynys Môn, Pen-y-bont, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam. Dysgwch ragor a gwnewch gais i fod yn Ffrind Gig yma .
O nawr tan Hanner Marathon Caerdydd ar ddydd Sul 27 Mawrth fe fyddwn yn rhoi sylw i’r rhedwyr sydd yn codi arian i Ffrindiau Gig. Rydym yn dechrau heddiw gyda Chymdeithas Tai First Choice sydd wedi cyllido ffrindiau Gig ers inni lansio’r prosiect yng Nghymru yn 2018..
Mae gan First Choice 6 o redwyr yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd dros Ffrindiau Gig: Prif Swyddog Gweithreddol Adrian Burke, Nigel Bowen, Tudor Davies, Michael Mainwaring, Dave Bingham, a Richard Griffiths. Gallwch gefnogi eu hymdrech codi arian yma.
Dywedodd Nigel Bowen, Rheolwr Tai Gweithrediadol yn First Choice, “Mae First Choice wedi bod yn falch iawn o gefnogi a darparu cyllid i Ffrindiau Gig Cymru ers 2018. Mae gweithrediadau, nodau a chanlyniadau Ffrindiau Gig Cymru yn uniongyrchol gysylltiedig gyda gwerthoedd y Gymdeithas. Mae First Choice wedi bod yn ddarparydd tai i bobl gydag anabledd dygsu ers dros 30 mlyne3dd. Rydym yn credu’n angerddol mewn hyrwyddo hawliau ein tenantiaid – a’r holl bobl gydag anabledd dysgu – i allu mwynhau pob agwedd ar fywyd .
“Mae First Choice yn cytuno gyda safiad y Comisiwn Hawliau Anabledd y dylai pob person gydag anabledd dygsu gael cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan a chyfrannu fel dinasyddion cyfartal ym mywyd cymdeithasol, economaidd, sifig a chymunedol y wlad. Credwn bod Ffrindiau Gig Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn helpu i gyflawni hyn i bobl gydag anabledd dygsu.
“Mae chwech aelod o dîm staff First Choice yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd eleni i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith ardderchog y mae Ffrindiau Gig Cymru yn ei wneud – ac rydym yn croesawu unrhyw roddion i helpu i’n cymell ymhellach ar gyfer beth fydd yn sicr yn ddiwrnod gwych. Mae’r hyfforddiant yn mnd yn dda ond mae llawer o waith caled eto i’w wneud. Allwn ni didm aros i ymuno gyda gweddill y rhedwyr sydd yn cynrychioli Ffrindiau Gig Cymru ar 27 Mawrth.”
Cefnogwch ein rhedwyr
Gallwch ddarganfod rhagor am ein holl redwyr a chyfrannu at eu tudalen codi arian LocalGiving drwy’r dolenni isod:
First Choice Housing – Adrian, Nigel, Tudor, Michael, Dave, Richard, Mike